Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 12 Rhagfyr 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 12:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Leighton Andrews Peter Black Jocelyn Davies Mike Hedges Mark Isherwood Gwyn R Price Jenny Rathbone |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio Ceri Breeze, Pennaeth Y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cymru Kath Palmer, Llywodraeth Cymru Alyn Williams, Llywodraeth Cymru Neil Buffin, Llywodraeth Cymru John Davies, Legal Services, Welsh Government Patricia Gavigan, Llywodraeth Cymru Geoff Marlow, Llywodraeth Cymru Margaret Frith, Llywodraeth Cymru Chrishan Kamalan, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Sarah Beasley (Clerc) Leanne Hatcher (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Blaenraglen waith y Pwyllgor
1.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.
2 Trafod yr adroddiad drafft: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Adroddiad Blynyddol 2012/13
2.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft.
3 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
3.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas a Janet Finch-Saunders.
4 Bil Tai (Cymru) – Cyfnod 1 – ystyried yr egwyddorion cyffredinol
4.1 Cafodd y pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio.
4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r hyn a ganlyn:
·
gwybodaeth am y gwahaniaethau rhwng y cynllun
cofrestru a thrwyddedu cyfredol ar gyfer y sector rhentu preifat yn
yr Alban a’r cynllun arfaethedig yng Nghymru y darperir ar ei
gyfer yn y Bil;
·
nodyn ar safonau diogelwch trydanol ar gyfer y sector
rhentu preifat i’w cynnwys yn y Cod Ymarfer y darperir ar ei
gyfer yn adran 28;
·
copi o’r adroddiad gan Brifysgol Caerdydd (a
oedd yn darparu tystiolaeth y dylai’r cyfnod o amser yr
ystyrir bod person o dan fygythiad o ddigartrefedd gael ei gynyddu
i 56 diwrnod);
·
nodyn ar sut y byddai’r gost o orfodi’r
cynllun cofrestru a thrwyddedu arfaethedig yn cael ei thalu, yn
sgîl y dyfarniad gan y Llys Apêl ar achos Hemming ac eraill yn erbyn Cyngor Dinas San
Steffan;
·
eglurder ar ystyr ‘hyglwyf’ yn adran
55(1)(j) mewn perthynas â phobl sydd wedi bwrw dedfryd o
garchar;
·
eglurder ar pam nad yw’r categori ar gyfer
angen blaenoriaethol yn adran 55(1)(c)(i) yn cyfeirio at salwch
meddwl, o ystyried ei fod wedi’i gynnwys yn y categorïau
sydd eisoes yn bodoli a nodir yn Neddf Tai 1996;
·
eglurder ar y gyfundrefn reoleiddio ac arolygu
bresennol ar gyfer hostelau digartrefedd;
·
eglurder ar ystyr cyfreithiol ac/neu effaith y term
‘er enghraifft’ yn adran 55(1)(c)(i);
· nodyn ar drefniadau dwyochrog rhwng awdurdodau lleol ar gyfer rhoi llety i bobl ddigartref; a
· dadansoddiad fesul awdurdod lleol o’r terfyn benthyca sy’n ymwneud â thai i gynnwys benthyca sydd eisoes yn bodoli a’r ddyled newydd i ariannu’r cam o adael y cynllun cymhorthdal cyfrif refeniw tai.
4.3 Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth gyfreithiol am y diffiniad o fod yn hyglwyf.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Papurau i’w nodi.